Iechyd meddwl a lles myfyrwyr

Ein hastudiaeth

Helpwch ni i wella iechyd meddwl a lles myfyrwyr

Mae Sut wyt ti? yn prosiect newydd s'yn gweithio i wella iechyd meddwl a lles myfyrwyr.


Rydym yn gwahodd pob myfyriwr i gymryd rhan a'n helpu ni i wneud gwahaniaeth.

Pwy ydym ni?

Mae NCMH wedi cydweithio a Thîm Cymorth Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd i ddeall yn well iechyd meddwl a lles myfyrwyr.

Beth ydyn ni'n ei ofyn?

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd?

Byddwn yn gofyn cwestiynau am eich iechyd a'ch ffordd o fyw, ac amdanoch chi'ch hun, fel oedran a grŵp ethnig. Byddwn hefyd yn gofyn am eich manylion cyswllt.

Tua 5 munud i ddarllen y daflen ganiatâd, a 10-15 munud i ateb y cwestiynau.

George

Munzir

"I was the first student Mental Health Officer at Cardiff University so was quite used to sharing my experiences of mental health  problems and knew I had to take part in the study. I believe it's incredibly important for people to take part in research as it will improve understanding of conditions and will aid future treatments."

"I’d recommend taking part in the study as the more we can understand these conditions, the better. I’m hoping the research will achieve an understanding of mental health so more effective treatments can be developed. It would also be great to help the public understand it better, to reduce stigma."

FAQs

Pwy sy'n cynnal yr astudiaeth?

Canolfan Ymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, dan arweiniad Prifysgolion Caerdydd, Abertawe a Bangor. Caiff ei hariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Llywodraeth Cymru. Yr Athro Ian Jones yw Cyfarwyddwr y Ganolfan.

Beth yw’r manteision posibl o gymryd rhan?

Gobeithio y bydd dysgu mwy am iechyd meddwl myfyrwyr yn arwain at ffyrdd newydd o gefnogi myfyrwyr. Fodd bynnag, nod hirdymor yw hwn o hyd ac ni fyddwch yn manteisio’n uniongyrchol ar hyn drwy gymryd rhan yn yr astudiaeth hon. 

Pwy fydd yn cael gweld fy ngwybodaeth?

Dim ond tîm yr astudiaeth fydd yn gallu gweld eich data a dim ond nhw fydd yn cysylltu â chi yn uniongyrchol.


Caiff yr holl wybodaeth a gesglir fel rhan o’r ymchwil ei chadw'n gwbl gyfrinachol. Mae cyfreithiau llym sy’n diogelu eich preifatrwydd ar bob cam. Yn unol â’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data a'r Ddeddf Diogelu Data, caiff eich gwybodaeth bersonol ei chadw’n gyfrinachol drwy neilltuo cod astudiaeth unigryw i'ch data. Ni chaiff eich enw na'ch gwybodaeth adnabod eu trosglwyddo i unrhyw un.

Pa mor aml y byddwch yn cysylltu â mi?

Byddwn yn cysylltu â chi bob tua 6-12 mis, er mwyn gofyn cwestiynau i chi am eich iechyd meddwl a’ch iechyd cyffredinol a’ch ffordd o fyw. Weithiau byddwn yn gofyn am wybodaeth nad ydych wedi'i rhoi o’r blaen. Weithiau byddwn yn gofyn yr un cwestiynau ag o’r blaen, er mwyn gallu gweld sut mae eich ffordd o fyw a’ch iechyd yn newid.


Yn ogystal â’r cyswllt rheolaidd hwn, efallai y bydd tîm yr astudiaeth yn cysylltu â chi o bryd i'w gilydd, i ofyn i chi gymryd rhan mewn astudiaethau newydd. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi am fod gennych gyflwr penodol (er enghraifft iselder), neu oherwydd rhywbeth y gwnaethoch ddweud wrthym amdano (er enghraifft, eich oedran). Gall timau ymchwil eraill gynnal yr astudiaethau hyn. Byddwn yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr astudiaethau hyn gan gynnwys pam mae’r gwaith ymchwil yn cael ei gynnal, beth y gellid gofyn i chi ei wneud a sut i gofrestru. Eich lle chi yw penderfynu a ydych am gymryd rhan yn yr astudiaethau newydd hyn. 


Ni fydd yn effeithio ar eich cyfranogiad yn Astudiaeth gyffredinol y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl os penderfynwch beidio â chymryd rhan.

A allaf wrthod neu dynnu'n ôl o'r astudiaeth?

Nid oes raid i chi gymryd rhan yn yr astudiaeth. Os byddwch yn penderfynu cymryd rhan, byddwch yn rhydd i dynnu’n ôl unrhyw bryd heb roi rheswm. Os byddwch yn penderfynu tynnu'n ôl o'r astudiaeth hon, caiff yr holl fanylion a ddarparwyd gennych eu dinistrio. Ni ddefnyddir y rhain wedyn yn yr ymchwil.

Beth fydd yn digwydd pan fydd yr astudiaeth wedi gorffen?

Mae hon yn astudiaeth hirdymor a fydd yn ein galluogi i ddysgu llawer am iechyd meddwl myfyrwyr. Caiff y wybodaeth a ddarparwch ei storio i'w defnyddio ar sail hirdymor (o leiaf 15 mlynedd ar ôl diwedd yr astudiaeth).


Ni fydd gennych unrhyw hawl i unrhyw ddefnydd masnachol o ganlyniadau’r astudiaeth yn y dyfodol lle y cafodd eich data eu defnyddio. I wneud y defnydd gorau o adnoddau, byddwn yn rhannu data (dienw er mwyn eithrio unrhyw fanylion personol) gyda gwahanol grwpiau o ymchwilwyr o'r GIG, prifysgolion a chwmnïau masnachol, o fewn y DU a thramor. Fodd bynnag, hoffem bwysleisio na fydd y sefydliadau hynny byth yn cael gafael ar wybodaeth bersonol/adnabod (er enghraifft, eich enw, cyfeiriad, dyddiad geni).

Pwy sydd wedi adolygu’r astudiaeth?

Cafwyd cymeradwyaeth foesegol gan y Gwasanaeth Moeseg Ymchwil Cenedlaethol a chafwyd caniatâd gan y GIG (Ymchwil a Datblygu) hefyd

Alla i drafod yr astudiaeth gyda rhywun nad sy’n rhan o’r prosiect?

Os hoffech drafod yr astudiaeth hon â rhywun sy'n annibynnol ar yr astudiaeth, cysylltwch â: Dr Vanessa Davies  029 2068 8340/daviesvj@cardiff.ac.uk.

Copyright © National Centre for Mental Health (NCMH) 2018